Ynglŷn a Cyngor Cymuned Y Fali
Mae 12 o Gynghorwyr yn gwasanaethu Cyngor Cymuned y Fali.
Cawn ein hethol gan drigolion lleol ac mae cyfnod ein gwasanaeth fel arfer yn bedair blynedd. Cynhelir yr etholiadau hyn ym mis Mai yr un pryd ag etholiadau lleol/cyffredinol eraill. Os cyfyd llefydd gwag rhwng etholiadau (er enghraifft trwy gynghorydd yn ymddiswyddo) yna byddant yn cael eu hysbysebu a’u llenwi naill ai trwy etholiad neu drwy gyfethol.
Cynghorau Cymuned yw’r haen statudol o lywodraeth leol sydd agosaf at y bobl. Rydym yn gweithredu er budd y gymuned gyfan trwy wneud penderfyniadau ac argymhellion i wella ansawdd bywyd a’r amgylchedd. Mae ymgynghori a gwrando ar drigolion lleol i ddeall eu hanghenion, eu dymuniadau a’u pryderon yn rhan annatod o’n gwaith.
Mae gan Gyngor Cymuned y Fali ystod eang o ddyletswyddau a phwerau. Rydym yn gyfrifol am ddarparu nifer o wasanaethau a restrir isod o dan y pennawd ‘Y Gwasanaethau a ddarperir gennym’. Yn ogystal mae gennym yr hawl i gyflwyno sylwadau ar geisiadau cynllunio, materion yn ymwneud gyda hawliau tramwy cyhoeddus, mesurau tawelu traffig, is-ddeddfau lleol ayyb. Bellach nid oes angen ymgynghori gyda ni ar faterion trwyddedu.
Mae’r Cyngor yn cyflogi clerc rhan-amser sy’n gweithredu fel Swyddog Ariannol Cyfrifol gan gyflawni’r gwaith gweinyddol sy’n gysylltiedig gyda rhedeg y Cyngor Cymuned o ddydd i ddydd.
Y Gwasanaethau a ddarperir gennym:
- Rydym yn rheoli a chynnal Mynwent Ynys Wen ac mae gennym Gofrestr Claddedigaethau ar gyfer y fynwent;
- Rydym yn rheoli Parc Mwd, y parc ger Ffordd yr Orsaf, Fali, gan gynnwys darparu caeau pêl droed, meinciau, man chwarae boules a llwybrau;
- Mae gennym brydles o’r man chwarae i blant ar Ffordd Spencer ac yn darparu ac yn gofalu am yr offer a’r safle;
- Rydym yn cynrychioli trigolion Cymuned y Fali, rydym yn cyfleu eu pryderon i’r Cyngor Cymuned a thrwy hynny i’r Cyngor Sir ac i Lywodraeth Cymru ac unrhyw asiantaeth arall pan fo’n briodol i wneud hynny;
- Rydym yn adrodd yn ôl i drigolion ar faterion sy’n effeithio ar y Gymuned;
- Rydym yn trafod ac yn dylanwadu ar y cyrff eraill hynny sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio’r gymuned;
- Ymgynghorir â ni ac rydym yn mynegi ein barn ar Geisiadau Cynllunio;
- Ymgnghorir â ni ac rydym yn mynegi ein barn ar faterion cynnal priffyrdd, materion tawelu traffig, materion parcio, enwi strydoedd ayyb;
- Rydym yn ymdrin gyda materion Hawliau Tramwy Cyhoeddus – cynnal a chadw llwybrau a llwybrau marchogaeth;
- Rydym yn edrych ar ôl cysgodfannau bws, y cloc a meinciau cymunedol o fewn y pentref;
- Mae un Cynghorydd Cymuned yn gwasanaethu ar Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol Gymuned y Fali. Rydym hefyd yn gwasanaethu ar Bwyllgorau a Byrddau eraill ar ran y Gymuned;
- Gallwn wario swm cyfyngedig o arian ar unrhyw beth y gellir ei ystyried o fudd i’r gymuned;
- Rydym yn rhoi cyfraniadau ariannol i elusennau lleol;